Ar Lan y Mor (исполнитель: Sian James)
Ar lan y mor mae rhosys cochion, Ar lan y mor mae lilis gwynion, Ar lan y mor mae nghariad inne, Yn cysgu’r nos a chodi’r bore. Ar lan y mor mae carreg wastad, Lle bum yn siarad gair a’m cariad, O amgylch hon fe dyf y lili Ac ambell sbrigyn o rosmari Llawn iawn yw’r mor o swnd a chregyn, Llawn yw’r wy o wyn a melyn, Llawn yw’r coed o ddail a blode, Llawn iawn o gariad ydwyf inne. Ar lan y mor mae cerrig gleision, Ar lan y mor mae blodau’r meibion, Ar lan y mor mae pob rhinweddau, Ar lan y mor mae nghariad inne.